Senedd Cymru | Welsh Parliament 
 Ymchwil y Senedd | Senedd Research
 P-06-1552 Rhoi'r gorau i adeiladu ‘ffermydd’ solar diwydiannol yn agos at adeiladau preswyl ac o fewn ffiniau pentrefi.
 Y Pwyllgor Deisebau | 8 Rhagfyr 2025
 Petitions Committee | 8 December 2025
 Cyfeirnod: SR25/12212-3
Cyflwyniad

Rhif y ddeiseb: P-06-1552

Teitl y ddeiseb: Rhoi'r gorau i adeiladu ‘ffermydd’ solar diwydiannol yn agos at adeiladau preswyl ac o fewn ffiniau pentrefi.

Geiriad y ddeiseb: Mae ffermydd solar yn cynyddu ledled y DU a Chymru.  Maen nhw’n dod â strwythurau hyll i'n cefn gwlad, ac yn lleihau tir ffermio.

Fe wnaeth y gwyntoedd cryfion a gafwyd yn ystod y tywydd stormus ddifrodi 'ffermydd' solar, gan beri difrod sy’n peri braw i drigolion lleol, oherwydd y risg y bydd paneli solar yn chwalu ar eu tir.
Mae cael ‘ffermydd’ solar ger eiddo preswyl yn gostwng gwerth, ac yn effeithio ar werthiant.

Dyma gynnig ein bod yn cadw ‘ffermydd’ solar i ffwrdd o ardaloedd preswyl, a thu allan i ffiniau pentrefi.

https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/huge-storm-wrecked-solar-farm-30556529.amp

https://infrastructure.planninginspectorate.gov.uk/wp-content/ipc/uploads/projects/General/General-Advice-00769-2-Attachment.pdf

http://trefeglwys-solar-farm.co.uk/

https://www.countytimes.co.uk/news/24918555.solar-farm-planned-land-trefeglwys-powys/

Mae'r testun uchod yn cael ei gyflwyno gan y deisebydd.  Mae'r tîm deisebau yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn cadw ei lais dilys.  Nid yw'r testun hwn wedi'i wirio am gywirdeb, neu wallau, a gall gynnwys barn neu honiadau heb eu gwirio.

 

 

1. Cefndir

1.1. Y sefyllfa bresennol o ran solar ffotofoltäig yng Nghymru

Yn ôl yr adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru Llywodraeth Cymru yn 2023, mae cyfanswm o 86,398 o brosiectau solar ffotofoltäig yn darparu 1,291 MW o gapasiti ac amcangyfrif o 1,184 MWh o ran cynhyrchu trydan. O ganlyniad i hyn, solar ffotofoltäig yw'r dechnoleg adnewyddadwy fwyaf yng Nghymru o ran capasiti, a'r drydedd fwyaf o ran cynhyrchu ynni, gyda dim ond ynni ar y tir (3,106 MWh) a gwynt ar y môr (2,163 MWh) yn cynhyrchu rhagor o ynni na solar.

Bu cynnydd mawr hefyd yn y defnydd o brosiectau solar ffotofoltäig yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Comisiynwyd bron i bedair gwaith cymaint o brosiectau yn 2023 (15,300) o'i gymharu â 2021 (3,900). Roedd y capasiti solar ffotofoltäig newydd a osodwyd yn 2023 (108 MW) yn fwy na dwywaith y swm a osodwyd yn 2022.

1.2. Caniatâd cynllunio

Diffinnir rhai mathau o ddatblygiadau mewn cyfraith cynllunio fel datblygiadau ‘a ganiateir’, felly caiff caniatâd datblygu ei roi iddynt heb fod angen cais cynllunio. Gellir ystyried gosodiadau bach o baneli solar, naill ai ar doeau, waliau, neu baneli wedi'u gosod ar y ddaear, yn ddatblygiadau ‘a ganiateir’ o dan ganllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru.

Mae angen caniatâd cynllunio ar brosiectau solar mwy, ac maent yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, sy'n cael ei bennu yn seiliedig ar gapasiti cynhyrchu arfaethedig, fel y dangosir yn y tabl isod.

Capasiti'r prosiect (ynni solar)

Caniatâd

<10 MW

Awdurdod Cynllunio Lleol

10 – 350 MW

Gweinidogion Cymru (Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol)

>350 MW

Ysgrifennydd Gwladol y DU (Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol)

Caiff cynigion ar gyfer datblygiadau ynni ar raddfa eang eu nodi fel ‘Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol’ a Gweinidogion Cymru sy’n penderfynu yn eu cylch. Cyflwynodd Deddf Seilwaith (Cymru) 2024, fodd bynnag, drefn gydsynio newydd a elwir yn Gydsyniad Seilwaith ar gyfer Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol yng Nghymru a sefydlwyd i ddisodli’r system Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol bresennol.

Bydd cynigion yn parhau i gael eu trin o dan y drefn datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol bresennol nes bod y drefn newydd mewn grym.

1.3. Polisi cynllunio cenedlaethol

Penderfynir ar geisiadau cynllunio yn unol â pholisïau cenedlaethol a lleol, oni bai bod ‘ystyriaethau perthnasol’ yn nodi fel arall. Mewn egwyddor, gall unrhyw ystyriaeth sy'n ymwneud â defnyddio a datblygu tir fod yn ystyriaeth berthnasol.

Amlinellir polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 a Pholisi Cynllunio Cymru. Mae Cymru’r Dyfodol yn nodi polisïau Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a defnyddio tir mewn cyd-destun gofodol. Mae â statws cynllun datblygu a dyma'r haen uchaf o gynllun datblygu yng Nghymru.

Mae Polisi 17 a Pholisi 18 o Cymru’r Dyfodol (gweler tudalen 95) yn ymdrin ag ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel. Mae Polisi 17 yn datgan:

Mae Llywodraeth Cymru yn gryf o blaid egwyddor datblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel o bob technoleg ac ar bob graddfa er mwyn diwallu ein hanghenion ynni yn y dyfodol. Wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel, rhaid i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau roi pwyslais sylweddol ar yr angen i gyflawni ymrwymiadau rhyngwladol Cymru a'n targed i gynhyrchu 70% o'r trydan a ddefnyddir mewn modd cynaliadwy erbyn 2030 er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.     

 

Mae Polisi 18 yn nodi y caiff cynigion ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel sy'n gymwys fel Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol eu caniatáu, yn amodol ar fodloni rhestr o feini prawf sydd wedi'u cynnwys yn y polisi. Mae hyn yn cynnwys nad “oes unrhyw effeithiau gweledol andwyol annerbyniol ar gymunedau nac anheddau unigol gerllaw”.

Fodd bynnag, nid yw polisi cynllunio cenedlaethol yn gorchymyn unrhyw ffiniau penodol rhwng datblygiadau solar ac anheddau. Byddai sut y caiff y polisi hwn ei ddehongli a'i gymhwyso i geisiadau unigol yn fater i Weinidogion Cymru, fel y rhai sy’n gwneud penderfyniadau (yn achos Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol), ac yn y pen draw i'r llysoedd.

Mae'n werth nodi y gallai lleoli datblygiadau solar i ffwrdd o gymunedau effeithio ar dir amaethyddol. Ym mis Mawrth 2022, anfonodd Llywodraeth Cymru lythyr at y Prif Swyddogion Cynllunio yn egluro polisïau mewn cysylltiad â datblygu ynni’r haul ar dir amaethyddol.  Nododd:

…lle nodir tir BMV ['Gorau a Mwyaf Amlbwrpas'] o fewn datblygiad arfaethedig aráe paneli solar ffotofoltaig, y dylid rhoi cryn bwys ar ddiogelu tir o'r fath rhag cael ei ddatblygu…. oherwydd ei bwysigrwydd arbennig, ac oni bai fod ystyriaethau perthnasol eraill yn nodi fel arall bydd angen gwrthod rhoi caniatâd.

Mae hefyd yn werth nodi, yn unol â Cymru’r Dyfodol, fod “safleoedd mewn Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn cael eu hystyried yn anaddas ar gyfer datblygiadau gwynt a solar ar raddfa fawr”.

2. Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswyddau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i gynhyrchiant trydan adnewyddadwy fod yn gyfwerth â 70 y cant o ddefnydd trydan blynyddol Cymru erbyn 2030, gan gynyddu i 100% erbyn 2035.

Fel yr amlinellwyd, mae sawl ffactor i'w hystyried wrth benderfynu ar geisiadau ar gyfer datblygiadau solar yn unol â pholisi cynllunio a chydbwysedd i'w daro rhwng cyrraedd targedau ynni adnewyddadwy, amddiffyn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a thir amaethyddol, ac osgoi effeithiau andwyol ar gymunedau. 

Yn ei llythyr at y Cadeirydd dyddiedig 25 Tachwedd, mae Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn cyfeirio at y gwahanol bolisïau cynllunio a drafodir yn y papur briffio hwn. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet hefyd yn tynnu sylw at ganllawiau Llywodraeth Cymru ar 'Ddylunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru a allai, er nad polisi ffurfiol ydyw, “fod yn ystyriaeth sylweddol i lywio amodau cynllunio posibl”. Dywed yr Ysgrifennydd Cabinet fod y canllawiau hyn yn amlygu:

… ystyriaethau safle ar gyfer nodi lleoliadau addas ac yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, safleoedd sy'n gallu cael eu sgrinio o dir cyfagos, gyda phlannu ar y perimedr a sgriniau, neu lle mae safleoedd yn weladwy, y posibilrwydd o integreiddio dyluniad yr aráe solar i'r patrwm tirwedd presennol, a safleoedd sydd ag effaith isel ar aneddiadau a chymunedau presennol.

Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddatgan bod 'Llawlyfr Rheoli Datblygu Cymru (2025)' Llywodraeth Cymru yn nodi bod:

… wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, fod yn rhaid i ACLl ystyried unrhyw farn berthnasol ar faterion cynllunio a fynegir gan feddianwyr cyfagos, trigolion lleol ac unrhyw drydydd partïon eraill. Mae'r Llawlyfr hefyd yn nodi y gall effeithiau datblygiad ar, er enghraifft, amwynder, iechyd a diogelwch y cyhoedd fod yn ystyriaethau perthnasol wrth asesu cais cynllunio. Fodd bynnag, nid yw dadlau hawl i olygfa, neu golli gwerth eiddo posibl, yn cael eu hystyried yn broblemau cynllunio perthnasol ac felly ni fyddent yn ystyriaethau perthnasol wrth benderfynu ar geisiadau.

3. Camau gweithredu Senedd Cymru

Ar 11 Mehefin 2025, cafwyd dadl yn y Senedd ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi moratoriwm ar bob cais i osod paneli solar ar dir amaethyddol; cynnal adolygiad o botensial ynni solar yng Nghymru; a datblygu strategaeth solar ar gyfer Cymru. Ni dderbyniwyd y cynnig.

Roedd dadl agored ar 19 Mawrth 2025 yn y Cyfarfod Llawn yn rhoi sylw i’r cwestiwn a all ynni adnewyddadwy yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru. Roedd y ddadl yn cynnwys trafodaeth am y lleoliadau mwyaf priodol i leoli paneli solar.

Ym mis Mehefin ystyriodd y Pwyllgor ddeiseb a oedd yn galw am osod paneli solar ar ochr ffyrdd a rheilffyrdd, mewn ardaloedd diwydiannol a thros feysydd parcio. Caeodd y Pwyllgor y ddeiseb honno gyda'r bwriad o gadw llygad ar fater lleoliad datblygiadau solar.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol